Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                                 Gwnaed Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 am 20:03 ddydd Mawrth 13 Ionawr ac fe’u cyflwynwyd i wefan gyhoeddi’r Archifau Gwladol am 10:00 ddydd Mercher 14 Ionawr. Bu oedi yn y broses gofrestru wedi hynny sy’n golygu y bydd y Rheoliadau yn dod i rym cyn i’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau ddod i ben. Y rheswm dros yr oedi oedd bod nifer mawr o Offerynnau Statudol yn cael eu prosesu gan yr Archifau Gwladol ar yr adeg honno ledled y DU. Gosodwyd y Rheoliadau gerbron y Senedd ar y cyfle cyntaf posibl, sef 16 Ionawr 2026.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                                 Rydym yn cytuno bod problem o ran y fformadu yn y ddarpariaeth a fewnosodir gan reoliad 53, sef bod pennawd y rheoliad yn ymddangos ar ôl rhif y ddarpariaeth yn hytrach nag uwch ei ben. Byddwn yn cysylltu â’r Archifau Gwladol i weld sut y gellir cywiro’r gwall fformadu. Nid ydym yn meddwl ei fod yn newid effaith gyfreithiol y ddarpariaeth a fewnosodir.